Cafodd y nodyn briffio ei greu ddechrau mis Chwefror 2022 i helpu’r Aelodau i ymateb i gwestiynau cyffredin am y Pàs COVID.

O 18 Chwefror ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd y PàsCOVID domestig yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau yng Nghymru mwyach. Fodd bynnag, bydd safleoedd yn parhau i allu dewis defnyddio’r Pàs fel un o’r mesurau rhesymol i atal lledaeniad y coronafeirws.

Bydd y Pàs COVID yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer teithio rhyngwladol.

 

NODYN BRIFFIO – Y diweddaraf am y Pàs COVID

 

Pryd y byddwn yn dangos y brechiadau atgyfnerthu ar y Pàs?

Rydym yn aros i Lywodraeth y DU benderfynu ar newid y diffiniad o fod wedi eich brechu'n llawn. Pan fydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei wneud, bydd yn ein galluogi i wneud y newidiadau digidol sydd eu hangen i ganiatáu i frechiadau atgyfnerthu gael eu dangos ar y Pàs COVID domestig. Mae'r dyddiad hwn wedi ei symud sawl gwaith.

Pan wneir y newidiadau hyn, i fod "wedi eich brechu'n llawn" yng Nghymru, at ddibenion y Pàs COVID domestig, rhaid eich bod wedi cael eich dos cyntaf, eich ail ddos a’ch dos atgyfnerthu o'r brechlyn COVID-19.

Ar hyn o bryd, mae "wedi eich brechu'n llawn" yn golygu’r dos cyntaf a'r ail ddos yn unig.

Ychwanegir dosau atgyfnerthu at gofnodion pobl yn fuan ar ôl rhoi’r brechiad ar hyn o bryd. Caiff yr wybodaeth ei chofnodi yng nghofnodion brechu pobl ac yna'i throsglwyddo i'r Pàs COVID, y gellir cael mynediad ato drwy eich manylion mewngofnodi’r GIG (a ddefnyddir wrth gofrestru ar gyfer y Pàs COVID a'i ddiweddaru). Gall y trosglwyddiad hwn gymryd hyd at bum diwrnod gwaith ond fel arfer caiff y Pàs ei ddiweddaru o fewn 24 awr.

O ran y Pàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol allanol, mae brechiadau atgyfnerthu eisoes wedi eu cynnwys arno.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried a ddylai'r diffiniad o fod wedi eich brechu’n llawn ar gyfer teithio rhyngwladol mewnol gynnwys brechiadau atgyfnerthu, ac a ddylai terfyn amser fod ar ddilysrwydd cyrsiau sylfaenol. Disgwylir y penderfyniad hwn ym mis Chwefror.

Mae tystysgrifau papur y gofynnwyd amdanynt ar ôl 7 Chwefror yn cynnwys brechiadau atgyfnerthu.

 

 

 

Pryd y byddwn yn ychwanegu’r brechlyn ar gyfer pobl sy’n imiwnoataliedig at y Pàs?

Nid yw’r trydydd dos sylfaenol i bobl sy’n imiwnoataliedig wedi bod yn dangos ar y Pàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol allanol oherwydd problem gyda’r ffordd y mae GIG Lloegr wedi bod yn cofnodi’r trydydd dos ar y system.

Rydym wedi bod yn pwyso am ddatrys y broblem hon. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi ei chodi dro ar ôl tro gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ei chodi gyda’u cymheiriaid yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rydym yn parhau i weithio gydag NHSX, NHS Digital ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i bwyso am ddatrys y problemau hyn cyn gynted â phosibl i ganiatáu i’r trydydd dos o’r brechlyn gael ei ddangos ar y Pàs COVID digidol. Bydd hyn yn galluogi pobl sy’n imiwnoataliedig i ddefnyddio’r Pàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol.

Rydym yn parhau i annog pawb i edrych ar ofynion mynediad y wlad y maent yn dymuno teithio iddi cyn gwneud trefniadau teithio/trefnu gwyliau, ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Mae’r rhain yn amrywio o wlad i wlad a gallant newid yn sydyn, yn dibynnu ar sefyllfa’r pandemig: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice

Mae’r rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol wrth ddychwelyd i’r DU/Cymru ar gael yma. Mae’r rhain yn cynnwys y newidiadau diweddaraf, a fydd yn dod i rym ar 11 Chwefror: https://llyw.cymru/rheolau-ar-gyfer-teithio-rhyngwladol-coronafeirws

 

Pryd y bydd ap newydd GIG Cymru yn barod gennym?

Mae disgwyl i’r fersiwn gyntaf o ap pwrpasol, newydd GIG Cymru, a fydd yn cynnwys ystod o swyddogaethau, fynd yn fyw ddechrau mis Mehefin.

 

Beth y dylai pobl ei wneud os oes angen Pàs COVID ar gyfer pobl ifanc dan 16 oed arnynt cyn iddynt fynd ar wyliau?

Bydd y Pàs COVID ar gael i bobl ifanc 12 i 15 oed o 3 Chwefror ymlaen yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau i blant pan fyddant yn teithio i Gymru ar gael yn: https://llyw.cymru/rheolau-i-blant-syn-teithio-i-gymru-coronafeirws

Rydym yn parhau i annog pawb i edrych ar ofynion mynediad y wlad y maent yn dymuno teithio iddi cyn gwneud trefniadau teithio/trefnu gwyliau, ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Mae’r rhain yn amrywio o wlad i wlad a gallant newid yn sydyn, yn dibynnu ar sefyllfa’r pandemig: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice

 

Beth y dylai pobl ei wneud os bydd gwlad yn gofyn i blant gael Pàs COVID i fynd ar wyliau, ond nid ydym wedi cynnig y brechlyn i blant dan 12 oed yn y DU?

Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad dros ofynion mynediad gwledydd eraill o ran y coronafeirws.

Cynigir y brechlyn COVID-19fel mater o drefn i blant 12 oed a hŷn yng Nghymru ac i blant 5 i 11 oed sy’n perthyn i un o’r grwpiau "risg" neu sy'n gyswllt cartref i rywun sy’n imiwnoataliedig.

Rydym yn parhau i annog pawb i edrych ar ofynion mynediad y wlad y maent yn dymuno teithio iddi cyn gwneud trefniadau teithio/trefnu gwyliau, ar wefan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Mae’r rhain yn amrywio o wlad i wlad a gallant newid yn sydyn, yn dibynnu ar sefyllfa’r pandemig: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice

 

Pryd y bydd pobl nad ydynt yn gallu cael y brechlyn neu wneud prawf llif unffordd yn debygol o gael yr eithriad wedi ei gynnwys ar eu Pàs a sut y maent yn cael hyn?

Bydd y cyhoeddiad yn cadarnhau'r diffiniad o "wedi eich eithrio’n feddygol" yn cael ei wneud y mis hwn (Chwefror). Bydd hyn yn cynnwys eithriadau i bobl nad ydynt yn gallu cael y brechlyn neu wneud prawf llif unffordd yn feddygol.

I ddechrau, bydd system dros dro yn nodi unigolion a bydd byrddau iechyd yn darparu cadarnhad ysgrifenedig eu bod wedi eu heithrio (ni fydd unrhyw wybodaeth feddygol yn cael ei chynnwys yn y llythyr). Bydd y llythyr yn cael ei ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth o eithriad hyd nes y gellir diweddaru'r system ddigidol gyda'r eithriadau. Bydd proses apelio ar gael.